After years of enduring slow internet speeds Nant Bwlch yr Haearn, a popular residential education centre in the Gwydir Forest near Llanrwst for children from throughout North Wales, now has lightning-fast, reliable gigabit broadband thanks to the UK Government’s Project Gigabit.
Speaking about the benefits of being connected to gigabit broadband Head of Centre, Jenny Wilson, said:
“Before we got the gigabit broadband here it could be really frustrating trying to work on the I.T. Critical parts of it like the rotas that the staff rely on wouldn’t update. Obviously we needed to liaise with schools coming up; there was no way we could do video calls which was OK with existing customers but we’ve picked up some new customers and they need to see us and to see what the centre is like and that just couldn’t happen. Once we had the gigabit broadband it was a massive improvement.”
Continuing, Jenny said:
“We’ve been able to boost the security with CCTV cameras which ensures the safety of the young people that are on site. We have staff who live on-site here, and the improved internet is going to massively improve their lives as they will be able to connect from the cottages.”
On Monday Aberconwy MP Robin Millar met with Julia Lopez MP, a Minister at the Department for Culture, Media and Sport – the department that is overseeing Project Gigabit. They discussed how Nant Bwlch yr Haearn was adopted by the UK Government for lightning-fast gigabit broadband and about the economic benefits the further rollouts will bring to communities across Aberconwy.
Following the meeting, Robin said:
“Project Gigabit is a £5 billion UK Government mission to connect homes, businesses and communities all over the UK that I am pleased to have brought to Aberconwy.
“I will continue to press for UK Government involvement and delivery in broadband where it benefits residents.
“Fast and reliable broadband is essential to modern life. Young people can do homework, students can submit coursework and attend lectures, parents can work and run businesses from home, families can access cheaper bills, public services and government services online.”
Concluding, Robin said:
“Fast and reliable broadband is also essential to Our Plan to Level Up our local economy and to promote jobs and businesses. Access to good broadband connections is vital for businesses to grow, to attract new businesses and to attract the best talent from around the country and I will continue to campaign to secure good broadband connectivity throughout Aberconwy.”
Aelod Seneddol (AS) Aberconwy yn croesawu Gigabit yn dod i Nant Bwlch yr Haern yn Eryri
Ar ôl blynyddoedd o ddioddef rhyngrwyd araf mae Nant Bwlch yr Haern, y ganolfan addysg breswyl boblogaidd yng Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst i blant o bob rhan o Ogledd Cymru, bellach â band eang hynod gyflym a dibynadwy o ganlyniad i brosiect Gigabit Llywodraeth y DU.
Wrth siarad am fanteision cysylltiad band eang gigabit dywedodd Pennaeth y Ganolfan, Jenny Wilson:
"Cyn i ni gael y band eang gigabit yn y ganolfan fe allai fod yn rhwystredig iawn ceisio gweithio ar y rhannau hollbwysig o'r rhyngrwyd gan na fyddai pethau roedd staff yn dibynnu arnynt fel rotas yn diweddaru. Yn amlwg roedd angen i ni gydlynu ag ysgolion a fyddai’n dod aton ni; doedd dim ffordd y gallen ni wneud galwadau fideo, rhywbeth oedd yn iawn gyda’n cwsmeriaid presennol ond rydyn ni wedi cael rhai cwsmeriaid newydd ac mae angen iddyn nhw ein gweld ni a gweld sut le yw'r ganolfan a doedd hynny ddim yn gallu digwydd. Ar ôl i ni gael band eang gan gigabit roedd e'n welliant enfawr."
Aeth Jenny ymlaen gan ddweud:
"Rydyn ni wedi llwyddo i roi hwb i ddiogelwch gyda chamerâu Teledu Cylch Cyfyng sy'n sicrhau diogelwch y bobl ifanc sydd ar y safle. Mae gennym ni staff sy'n byw ar y safle yma, ac mae'r rhyngrwyd gwell yn mynd i wella eu bywydau yn aruthrol gan y byddant yn gallu cysylltu o'r bythynnod."
Ddydd Llun, fe wnaeth AS Aberconwy, Robin Millar gyfarfod â Julia Lopez AS, Gweinidog yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon - yr adran sy'n goruchwylio Prosiect Gigabit. Trafodwyd y ffaith i Nant Bwlch yr Haern gael ei fabwysiadu gan Lywodraeth y DU ar gyfer band eang gan gigabit sy'n hynod gyflym ac am y buddion economaidd y bydd y broses o'i gyflwyno ymhellach yn rhoi i gymunedau ar draws Aberconwy.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Robin:
"Mae Prosiect Gigabit yn ymgyrch gwerth £5 biliwn gan Lywodraeth y DU i gysylltu cartrefi, busnesau a chymunedau ledled y DU ac rwyf yn falch o ddod â hi i Aberconwy.
"Byddaf yn parhau i bwyso dros gynnwys Llywodraeth y DU ac am ddarparu o ran band eang pan fo o fudd i drigolion.
"Mae band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i fywyd modern. Gall pobl ifanc wneud gwaith cartref, gall myfyrwyr gyflwyno gwaith cwrs a mynychu darlithoedd, gall rhieni weithio a rhedeg busnesau o'u cartrefi, gall teuluoedd gael biliau rhatach, gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau'r llywodraeth ar-lein."
I gloi, dywedodd Robin:
“Mae band eang cyflym a dibynadwy hefyd yn hanfodol i Ein Cynllun Ffyniant Bro yn ein heconomi leol ac i hyrwyddo swyddi a busnesau. Mae mynediad at gysylltiadau band eang da yn hanfodol i dwf busnesau, iddynt ddenu busnesau newydd a denu’r dalent orau o bob rhan o’r wlad a byddaf yn parhau i ymgyrchu i sicrhau cysylltedd band eang da ledled Aberconwy.”