![bb22](/sites/www.robin-millar.org.uk/files/styles/gallery_large/public/news-gallery/PHOTO-2022-07-09-09-57-54.jpg?itok=dwrSBsLu)
On Saturday Aberconwy MP Robin Millar visited the Wales in the Battle of Britain exhibition that has been on display at Llandudno’s Trinity Church.
The exhibition tells the story of the Battle of Britain Fighter Aces and Commanders from throughout Wales, along with the Welsh airfields which trained Fighter Pilots. These heroes – ‘The Few’ - defended the United Kingdom from Nazi aerial attack, prevented Hitler’s planned invasion of the UK (Operation Sealion) and were instrumental in turning the tide of the war in Europe against Hitler’s tyranny.
Commenting on the exhibition, Robin said:
“This remarkable exhibition brought to life the long and close bond between Wales and the Royal Air Force. The 67 pilots – ‘The Welsh Few’ – came from all corners of Wales and it was fascinating to learn about heroes like Sergeant Glyn Griffiths - a former gas engineer from Llandudno who shot down seven enemy aircraft.”
Continuing, Robin said:
“Wales continues to be vital to the development and success of the Royal Air Force. The legacy of the courageous pilots of the Battle of Britain lives on today in the skies above Aberconwy as the newest generation of RAF fast jet pilots are trained along the coast at RAF Valley on Anglesey, the finest centre of military aviation training in the world.
Ending, Robin said:
“And of the Battle of Britain Pilots I can only echo the words of our wartime leader Winston Churchill, who said: “Never in the field of human conflict was so much owed by so many to so few.”
Ymweliad ag arddangosfa Cymru ym Mrwydr Prydain yn Llandudno
Ddydd Sadwrn, ymwelodd Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy, ag arddangosfa Cymru ym Mrwydr Prydain sy’n cael ei chynnal yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno.
Mae’r arddangosfa’n adrodd hanes peilotiaid a chadlywyddion Brwydr Prydain o bob rhan o Gymru, yn ogystal â’r meysydd awyr lle hyfforddwyd y peilotiaid. Amddiffynnodd yr arwyr hyn – The Few – y Deyrnas Unedig rhag ymosodiadau awyr y Natsïaid, gan atal goresgyniad arfaethedig Hitler o’r DU (Operation Sealion) a chwarae rhan allweddol o ran troi’r llanw ac achub Ewrop rhag gorthrwm Hitler.
Mewn ymateb i’r arddangosfa, dywedodd Robin:
“Mae’r arddangosfa hynod hon yn pwysleisio’r berthynas agos a hirhoedlog rhwng Cymru a’r Awyrlu Brenhinol. Daeth y 67 peilot – The Welsh Few – o bob rhan o Gymru ac roedd yn ddiddorol tu hwnt dysgu am arwyr fel Sarjant Glyn Griffiths, cyn-beiriannydd nwy o Landudno, a saethodd saith o awyrennau’r gelyn i lawr.”
Parhaodd Robin:
“Mae Cymru yn parhau i fod yn hanfodol i ddatblygiad a llwyddiant yr Awyrlu Brenhinol. Mae gwaddol peilotiaid dewr Brwydr Prydain yn parhau heddiw yn yr awyr uwchben Aberconwy wrth i’r genhedlaeth ddiweddaraf o beilotiaid awyrennau jet cyflym yr Awyrlu gael eu hyfforddi ar hyd yr arfordir yn RAF Fali, Ynys Môn, y ganolfan hyfforddi hedfan milwrol orau yn y byd.
I gloi, dywedodd Robin:
“Ac wrth sôn am beilotiaid Brwydr Prydain, hoffwn adleisio geiriau ein harweinydd yn ystod y rhyfel, Winston Churchill, a ddywedodd: “Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr”.